Thursday, 24 September 2009

Jac y ci / Jac the dog

Dyma Jac, fy nghi, yn chwarae gyda phêl sy'n rhy fawr i ffitio yn ei geg!

This is Jac, my dog, playing with a ball that's too big to fit in his mouth!

Wednesday, 23 September 2009

Pigs might fly...

It's been a while since I wrote on here in English, so I thought I'd better pull my finger out and write something.

I currently have a lot of time on my hands but I'm unable to do anything with it. I've been ill with swine flu for two weeks (hence the title of this post - think about it), and although I'm over the worst of it I'm still unwell and still off work. Every little thing I do makes me exhausted and shaky. Even walking up or down stairs is a major effort. When I finally recover I think my body's going to have a bit of a shock when I start dancing and mountain biking again. I haven't had any exercise at all for two weeks and counting!

I've missed out on a lot of things because of this stupid illness. Not least of those is my new part-time job as a Welsh to adults tutor, which I have yet to start because of the flu even though I should now be into my second week. I've also missed out on a dance competition for which my dance partner and I had been preparing for weeks. Some friends from the same dance class as us came second in the competition, which was great to hear, but I feel cheated of the chance to see how well we could do. We might have beaten our friends or they might have beaten us, but either way it would have been better than lying down at home feeling ill instead of dancing. Bleh.

I'm well enough now to feel bored, but not well enough to do anything about it. Roll on next week, when I should be able to go back to work.

Wednesday, 2 September 2009

Cell newydd Cymdeithas yr iaith

Cynhelir cyfarfod cychwynnol Cell Caerffili a Blaenau Gwent ar nos Lun y
14eg o Fedi yn y Sirhowy (Wetherspoon's), Stryd Fawr, Y Coed Duon NP12 1BA
am 7pm.

Mae map yma.

Os oes gennych unrhyw beth yr hoffech ei weld ar yr agenda, e-bostiwch fi
neu ffonio fi ar 07815 134622.

Os oes ffrindiau gyda chi a fyddai'n hoffi mynychu'r cyfarfod, anfonwch yr
e-bost hwn ymlaen atyn nhw.

Os nad ydych yn aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eto, cewch ymaelodi ar
ein gwefan.

Mae Glenn wedi sefydlu blog newydd i'r gell, ac mae grwp Facebook gyda ni hefyd.

Gig Cymdeithas yr Iaith

Thursday, 23 July 2009

Dechrau cell Cymdeithas yr Iaith

Rwy'n bwriadu dechrau cell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ardal y Coed Duon / Sir Gaerffili. Mae cell newydd yn dechrau yn Abertyleri hefyd. Os hoffech ymuno ag un o'r celloedd hyn, gadewch neges yma neu gysylltwch â'r Gymdeithas yn uniongyrchol.

Thursday, 16 July 2009

Preserve the Union - a guide for unionists

Replace the words "Scotland" and "Scottish" with "Wales" and "Welsh" and this is just as relevant here as it is in Scotland.

Thursday, 21 May 2009

Agwedd gwrth-Gymraeg

Ffrwydrodd ffrae fawr ar Facebook yn ddiweddar wrth i rai aelodau o'r teulu geisio fy ngheryddu am y drosedd enfawr o ysgrifennu nodyn yn Gymraeg, ar fy mhroffil fy hun, oedd eisioes yn ddwyieithog! Atebais i mewn ffordd hollol resymol, rwy'n meddwl, ond mae hanes gyda'r aelodau yna o'r teulu o fynd dros ben llestri a chyn hir roedden nhw'n galw pob math o bethau arna' i a fy chwaer, ac yn waeth na hynny, yn awgrymu y byddai fy niweddar dad wedi cytuno â nhw! (Dim ffordd - doedd e ddim yn or-hoff ohonyn nhw!)

Er mwyn i'r neges fod yn glir: fydda' i BYTH yn ymddiheuro am ysgrifennu neu siarad Cymraeg. Rwy' wedi gweithio'n galed i ddysgu'r iaith, iaith sy'n gynhenid i'r ardal hon (a fy nheulu i) yn wreiddiol, ac rwy'n mynd i'w defnyddio!

(Mae'r aelodau o'r teulu yna wedi cael eu dileu o'n rhestr ffrindiau i erbyn hyn.)

Fideo arall o rali Cymdeithas yr Iaith

Wednesday, 20 May 2009

Hawl i Fesur Iaith Cyflawn

I'r rhai nad oedden nhw'n gallu bod yno, dyma fideo o uchafbwyntiau rali Cymdeithas yr Iaith ar Fai 16.

Rali Mai 16, 2009: Hawl i Fesur Iaith Cyflawn from Cymdeithas yr Iaith on Vimeo.

Wednesday, 1 April 2009

Buddug


RIP Buddug, 2000 - 2009.
(She's the darker ferret on the left. The other, Sally, died some time ago.)